Braf roedd gweld Michael Russell ysgrifennydd Addysg yr Alban ac aelod SNP dros Argyll & Bute, yn gneud penderfyniad call a phragmataidd yn gosod moratoriwm ar gau ysgolion bach cefn gwlad am flwyddyn tra mae comisiwn i edrych mewn i addysg mewn ardaloedd gwledig yn ymchwilio. Yn wahanol iawn i Blaid Cymru tydy Russell ddim am danseilio ei bleidlais grai yn ei 'iard gefn' drwy gau 35 o ysgolion cefn gwlad yng nghadarnleoedd yr SNP.
Gwersi amlwg yma i Blaid Cymru a hynny ydy rhoi arweiniad clir i'w Cynghorwyr drwy Gymru...dyda ni ddim yn mynd i gau fwy o ysgolion cefn gwlad HEB gefnogaeth y gymuned lleol.
Trwy ddilyn polisiau pragmataidd ymarferol hwyrach gwnawn ninnau adennill y tir sydd wedi ei golli ers 2008.
Onid peth pragmataidd ydi cael gwared ar hen ysgolion Fictorianaidd sy'n methu, a chreu ysgolion newydd sy'n dilyn model y gwledydd mwyaf llwyddiannus yn y byd o ran addysg? Ta waeth am hynny, pam fod Plaid yn gwrthwynebu ad-drefnu yn chwyrn mewn rhai siroedd, ac yn gwthio'r peth drwodd yng Ngwynedd? Mae'r holl beth yn awgrymu diffyg strategaeth, diffyg gweledigaeth a diffyg grym.
ReplyDeleteY ffordd ddaru'r SNP ennill yr hawl i wneud penderfyniadau fel hyn oedd drwy ENNILL.
Y rheswm ydy Guto ydy fod na 'disconnect' rhwng arweinyddiaeth y Blaid, AC ac AS'au ac arweinyddion grwpiau Plaid Cymru mewn llywodraeth leol. Hefyd dydy mwyafrif llethol o Gynghorwyr Plaid Cymru yn cyfrannu dim i'r Blaid yn genedlaethol. Da ni'n lwcus iawn o weld treuan o Gynghorwyr y Blaid yn y ddwy gynhadledd, Ysgol Haf ar Cyngor Cenedlaethol. Mae angen tipyn mwy o ddisgyblaeth ar BOB LEFEL o fewn y Blaid. Y rheswm pam fod na wahaniaeth mewn polisiau addysg ar draws llywodraeth leol ydy fod na rai ohonom yn gwrando ar gymunedau lleol. Mae na ormod o awdurdodau lleol lle mae swyddogion yn rhedeg y sioe a ddim aelodau etholedig a mae hynna yn cynnwys rhai awdurdodau lle mae y Blaid yn rhannol lywodraethu.
ReplyDeleteSchool closures is an issue which has impacted on Plaid in Gwynedd especially. It is a difficult issue balancing the cost of keeping very small schools open against the impact of a small community.
ReplyDeleteUnfortunately, in many councils the money argument will prevail.