Wednesday, 11 March 2009

Addysg Gymraeg

Penderfynnodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Wrecsam ar y 10ed o Fawrth 2009, i ymgynghori ar ymestyn darpariaeth gynradd Gymraeg yn y sir. Dangoswyd arolwg yn ol yn 2007 fod galw mawr am fwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y sir yn arbennig yn Gwersyllt/Brynhyfryd a Llai. Yn dilyn hyn cyfarfu nifer o arbennigwyr yn cynnwys prif athrawon yr ysgolion Cymreig, swyddogion yr Awdurdod a Chynghorwyr i benderfyny ar opsiynau. Y ddau opsiwn sydd yn mynd allan i ymgynghoriad (ond mae croeso i rywyn neud sylw ar opsiwn arall) yw:
1. Ysgol Gymraeg mewn adeiladau o eiddo y sir yn Dodds Lane, Gwersyllt.
2. Ffrwd Gymraeg yn un o ddwy ysgol Saesneg ei chyfrwng sydd yn Gwersyllt ar hyn o bryd.
Mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud i gychwyn darpariaeth ehangach o fis Medi 2010.
Os am gymeryd rhan yn yr ymgynghoriad, ysgrifennwch at y Prif Swyddog, Dysgu a Chyflawniad, Gwasanaeth Plant a Phobol Ifanc, 16 Stryd yr Arglwydd, Wrecsam, LL11 1LG.

3 comments:

  1. Yn falch o weld bod symudiad ar droed a llongyfarchiadau i bawb ynglyn a'r fenter. Ond plis peidiwch a sefydlu unedau - mae gormod o amser wedi mynd i chwarae efo'r syniad. Hawl ydy ysgol Gymraeg i bawb sy'n dymuno hynny ewch ymlaen yn hyderus ac fe fydd llwyddiant. Pob dymuniad da.
    Arfon Owen Jones (nid y Cynghorydd!!)

    ReplyDelete
  2. I was born and raised in Gwersyllt and there was next to no Welsh at school (Holy Trinity Primary and Bryn Alyn) I left unable to speak Welsh. I now am fluent - I learnt the hard way as an adult - and it is hard if you are working and running an adult life to find the time.
    I also teach Welsh here in London! Anyway its about time that Wrexham got a new Welsh primary - the demand levels are enormous and even this school will fill up rapidly.

    Felly brysiwch agor Ysgol Gymraeg Gwersyllt... A beth am enw iddi...

    Peter Humphreys
    Petroc ap Seisyllt

    PS is there a fighting fund - or friends fund for the new school yet?

    ReplyDelete
  3. I was born and raised in Gwersyllt and there was next to no Welsh at school (Holy Trinity Primary and Bryn Alyn) I left unable to speak Welsh. I now am fluent - I learnt the hard way as an adult - and it is hard if you are working and running an adult life to find the time.
    I also teach Welsh here in London! Anyway its about time that Wrexham got a new Welsh primary - the demand levels are enormous and even this school will fill up rapidly.

    Felly brysiwch agor Ysgol Gymraeg Gwersyllt... A beth am enw iddi...

    Peter Humphreys
    Petroc ap Seisyllt

    PS is there a fighting fund - or friends fund for the new school yet?

    ReplyDelete