Ail etholwyd Dafydd Iwan yn Llywydd Plaid Cymru heddiw ma, curodd Dafydd arweinnydd y blaid seneddol yn San Steffan sef Elfyn Llwyd AS Meirionnydd. Llongyfarchiadau i Dafydd oddiwrthym ni Gynghorwyr Plaid Cymru Wrecsam. Edrychwn ymlaen i ddatblygu y Blaid ar lawr gwlad ac yn arbennig cael mwy o aelodau.
Chwythed y gwynt o'r dwyrain, rhued y storm o'r môr
ReplyDeleteHollted y mellt yr wybren a gwaedded y daran encôr
Llifed dagrau'r gwangalon a llyfed y taeog y llawr
Er dued y fagddu o'n cwmpas, ry'n ni'n barod am doriad y wawr!
Falch iawn i weld Dafydd yn cael ei ail-ethol ac yn sefyll dros egwyddorion cadarn rhyngwladol, blaengar a gwrth-militaraidd.
ReplyDeleteMae'r ffaith hefyd fod 4300 o aelodau wedi pleidleisio mewn etholiad mewnol yn arwydd iach - tua 60% o'r aelodaeth.